Pam ymuno â Phlaid Cymru?

Ymuno â Phlaid Cymru

Plaid Cymru yw’r blaid wleidyddol ar gyfer pobl sydd eisiau gweld Cymru yn llwyddo. Ni yw’r unig blaid sydd wedi ei lleoli yn llwyr yng Nghymru a fydd yn blaenoriaethu lles ei phobl ar bob achlysur. Ein haelodau yw calon ein mudiad ac maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad ein plaid a chyflawni ein cenhedlaeth. Yma mae gwybodaeth ddefnyddiol os ydych yn ystyried ymuno.

Pam y dylwn i ymuno?

Mae Plaid Cymru yn gweithio i adeiladu Cymru lewyrchus, cymdeithasol gyfiawn ble gall bawb gyflawni eu huchelgeisiau. Os ydych yn cytuno gyda’n gweledigaeth ymunwch â ni i fod yn rhan o dîm sy’n gweithio i symud Cymru ymlaen.

Bob blwyddyn mae aelodau yn pleidleisio ar bolisïau’r Blaid yn y Gynhadledd Flynyddol, sy’n digwydd ym mis Hydref, cyn mynd ati wedyn i weithio i droi’r weledigaeth yn realiti wrth ymgyrchu.

Gall aelodau sydd eisiau cymryd rôl fwy uniongyrchol neu weledol sefyll mewn etholiadau ar gyfer swyddi mewnol yn ogystal â mewn etholiadau ar gyfer y Cynulliad, San Steffan a’r cyngor.

 

Faint mae’n gostio a ble mae’r arian yn mynd?

Mae aelodaeth arferol yn costio £2 y mis. 

Yn wahanol i’r pleidiau mawr Prydeinig, nid ydym ni yn dibynnu ar nifer bychan o gyfranwyr hynod gyfoethog. Rydym yn dibynnu ar dderbyn cyfraniadau gan ein haelodau a bydd eich ffi aelodaeth chi yn mynd tuag at sicrhau bod neges Plaid Cymru yn cael ei chlywed ac ennill etholiadau. Mae’r arian hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau fod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli ar bob lefel o lywodraeth.

 

Rwyf am ymuno! Beth nesaf?

Byddwn yn gyrru pecyn aelodaeth i chi drwy’r post yn fuan ar ôl i chi ymuno fydd yn cynnwys gwybodaeth am sut mae’r blaid yn gweithio a’ch cerdyn aelodaeth hollbwysig. Croeso i’r tîm!

Cliciwch yma i ymuno nawr.

Os oes gennych fwy o gwestiynau cyn i chi ymuno mae croeso i chi yrru e-bost i ni neu ffonio ar 02920 472272. Gallwch hefyd ymuno dros y ffôn os yw hynny’n well gennych chi.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.