Heledd Fychan AS yn Beirniadu’r Penderfyniad i Gau Cartref Gofal Garth Olwg

Yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf i gymeradwyo cynnig i gau Cartref Gofal Garth Olwg, mae Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru wedi mynegi ei siom ar ran trigolion a staff y cartref. 

Daw’r penderfyniad yn sgil cyfnod ymgynghori, lle daeth yn amlwg bod y mwyafrif o bobl yn gwrthwynebu cau’r Cartref gyda dros 500 o enwau yn cael eu cyflwyno rhwng dwy ddeiseb. Roedd pob un ond un o breswylwyr presennol y cartref yn gwrthwynebu’r bwriad i gau eu cartref  (roedd un yn ‘ansicr’) a mwyafrif clir iawn o bobl, dros 70% am gadw’r ddarpariaeth yn union fel yr oedd. 

Yn bellach, roedd adroddiad Arolygaeth Gofal Cymru yn dweud fod y cartref preswyl yng Ngarth Olwg yn lle ble "Mae pobl yn hapus gyda'r gefnogaeth maen nhw'n ei dderbyn. Mae staff gofal yn ystyriol ac yn gwrtais, yn ogystal ag ymroi i'w gwaith. Mae tîm staff hirsefydlog ar waith, ac maen nhw'n gwybod anghenion a dewisiadau'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw."

Gan ymateb i'r penderfyniad, dywedodd Ms Fychan: “Mae’n warthus bod y Cyngor wedi penderfynu mynd rhagddo gyda chau Cartref Gofal Garth Olwg, er gwaethaf gwrthwynebiad trigolion y cartref, y gymuned leol ac Arolygaeth Gofal Cymru.

 “Unwaith eto, dyma esiampl o Gabinet Llafur Cyngor Rhondda Cynon Taf yn anwybyddu barn trigolion ac arbenigwyr, ac yn lleihau’r nifer o lefydd sydd ar gael mewn cartrefi gofal er bod cynnydd yn y galw. 

 “Bydd nifer yn gofyn beth yw pwrpas ymgynghori os nad yw’r Cyngor yn fodlon gwrando ar farn unrhyw un heblaw nhw eu hunain? Mae hyn yn gam gwag ar ran y Cyngor, fydd yn effeithio’n andwyol ar wasanaeth hanfodol yn y gymuned.

 Ychwanegodd Ioan Bellin, ymgyrchydd lleol ym Mhentre’r Eglwys oedd yn gwrthwynebu cau’r Cartref: “Bydd nifer o bobol Pentre’r Eglwys wedi eu siomi gyda’r penderfyniad yma gan y Blaid Lafur. Mae yna falchder yn y gymuned bod Garth Olwg wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer gofal preswyl rhagorol i bobl hŷn ers cyhyd, ac maent yn teimlo’n chwerw y bydd gofal yn dod i ben.

 “Bydd ganddynt gwestiynau pendant i ofyn i Gynghorwyr lleol sy’n cynrychioli’r Blaid Llafur, gafodd eu hethol y llynedd drwy ddweud eu bod wedi gwarchod dyfodol y Cartref Gofal. Bydd rhaid iddynt gyfiawnhau eu haddewidion gwag i'r etholwyr yn yr etholiad nesaf, a gweithio’n galed rhwng nawr a hynny i adfer ymddiriedaeth y gymuned.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Brooke Webb
    published this page in Newyddion 2023-03-02 11:13:09 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.